Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd
Dyddiad: Dydd Llun, 24 Medi 2018
Amser:
14.51 -
17.02
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/5032/
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Nick Ramsay AC (Cadeirydd) Mohammad Asghar (Oscar) AC Neil Hamilton AC Vikki Howells AC Adam Price AC Lee Waters AC Mike Hedges AC |
Tystion: |
Clare Pillman, Cyfoeth Naturiol Cymru Peter Garson, Cyfoeth Naturiol Cymru Kevin Ingram, Cyfoeth Naturiol Cymru |
Swyddfa Archwilio Cymru: |
Adrian Crompton - Archwilydd Cyffredinol Cymru Derwyn Owen Dave Rees |
Staff y Pwyllgor: |
Fay Bowen (Clerc) Claire Griffiths (Dirprwy Glerc) Katie Wyatt (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r Pwyllgor.
1.2 Croesawodd y Cadeirydd Adrian Crompton, Archwilydd Cyffredinol Cymru, i'w gyfarfod ffurfiol cyntaf o'r Pwyllgor.
1.3 Dirprwyodd Mike Hedges AC ar ran Rhianon Passmore AC.
2.1 Bu'r Aelodau'n craffu ar Clare Pillman, Prif Weithredwr, Kevin Ingram, Cyfarwyddwr Gweithredol Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol, a Peter Garson, Pennaeth Gweithrediadau Masnachol, Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghylch Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer 2017-18.
2.2 Cytunodd Clare Pillman i anfon manylion am:
· faint o’r pren a gynhyrchwyd yng Nghymru a broseswyd yng Nghymru yn 2017-18; a
· sut y cyfrifwyd cytundeb setliad y Prif Weithredwr blaenorol a phwy a gymeradwyodd y cytundeb hwn.
3.1 Derbyniwyd y cynnig.
4.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law.